GWEITHGARWCH RHYNGWLADOL GWEINIDOGION
Mai 2025
|
YMWELIADAU Â CHYMRU |
|
|
20 Mai
|
Ymweliad â Chymru gan Bennaeth Cenhadaeth Palesteina Roedd y Prif Weinidog yn bwriadu cwrdd â Phennaeth Cenhadaeth Palestina yng Nghaerdydd ond, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, nid oedd yn gallu teithio felly cawsant alwad ffôn yn lle hynny. Roedd yr alwad yn ymdrin â'r gwrthdaro yn Gaza a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU.
|
|
YMWELIADAU Â GWLEDYDD ERAILL |
|
|
19 Mai
|
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi yn Llundain ar gyfer Derbyniad Uwchgynhadledd y DU-UE Teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi i Lundain ar gyfer derbyniad Uwchgynhadledd y DU-UE i drafod agweddau ar Fargen yr UE-DU. Roedd y derbyniad yn 10 Downing Street ac roedd y Prif Weinidog, Gweinidogion Cabinet y DU, Comisiynydd yr UE Šefčovič a thua 100 o gynrychiolwyr busnes yn bresennol.
|